Côr Tŷ Tawe
Côr Cymraeg Abertawe
Sefydlwyd Côr Tŷ Tawe yn 1990 yn gôr pedwar llais i siaradwyr Cymraeg a dysgwyr Abertawe a’r cylch. (Tŷ Tawe yw canolfan Gymraeg Abertawe.) (llun: Lluniau Llwyfan; gwefan: lluniaullwyfan.com)
Bu’r côr yn cynnal cyngherddau ledled de Cymru, ac enillodd y gystadleuaeth i gorau bach yng Ngŵyl Ban-Geltaidd Iwerddon bedair gwaith.
Mae’r côr hefyd wedi teithio’n eang, gan gynnwys cyngherddau yn yr Almaen, Awstria, Gwlad Pŵyl, a Phrâg, lle y canodd mewn cyngherddau yn Eglwys St Nicolas, ar yr hen sgwâr, ac yn neuadd y dref, Nusle. Bu’r côr ar daith i Awstria a’r Almaen yn 2004 gyda chyngherddau yn eglwys gadeiriol Salzburg, Mondsee, Zell am See a Grafing ger Munich.
Yn 2005 teithiodd i Berlin a Wittenberg, ac yn 2007 bu’n canu yn eglwys gadeiriol Barcelona, eglwys abaty Montserrat ac eglwys St Pacia.
Mae’r côr yn canu amrywiaeth o alawon gwerin, emynau a chaneuon modern a darnau clasurol.
Cychwynnodd y côr yn gôr i bobl ifanc, ac mae’n dal i roi lle amlwg i’r aelodau iau.
Mae’r côr yn croesawu aelodau newydd: cysylltwch os ydych chi’n gallu canu - mae’r manylion cyswllt yn yr adran ‘Cysylltu’ > ‘Ymuno’.
Mae’r côr hefyd yn croesawu ceisiadau ar gyfer cyngherddau: mae’r manylion yn yr adran ‘Cysylltu’ > ‘Trefnu cyngerdd?’
RY’N NI’N EDRYCH MLAEN I GLYWED ‘DA CHI.
